Victor Matfield wedi anafu o hyd
Mae De Affrica wedi cyhoeddi un newid i’w tîm wrth iddyn nhw baratoi i herio Cymru yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd yn Twickenham ddydd Sadwrn (4 o’r gloch).
Mae JP Pietersen yn dychwelyd i’r asgell dde yn lle Lwazi Mvovo, wrth i Bryan Habana ddychwelyd i’w safle arferol ar yr asgell chwith.
Mae pedwar o newidiadau ymhlith yr eilyddion, wrth i’r bachwr Adriaan Strauss, y prop Jannie du Plessis, y mewnwr Ruan Pienaar a’r maswr Pat Lambie adennill eu lle ar y fainc.
Dydy’r clo Victor Matfield ddim yn holliach eto yn dilyn anaf i linyn y gâr.
Mae’n bosib mai ar yr esgyll fydd prif arfau De Affrica wrth iddyn nhw geisio am le yn y rownd gyn-derfynol.
Mae Habana a Pietersen eisoes wedi sgorio naw cais rhyngddyn nhw yn y gystadleuaeth.
Tîm De Affrica: W le Roux, JP Pietersen, J Kriel, D de Allende, B Habana, H Pollard, F du Preez (capten); T Mtawarira, B du Plessis, F Malherbe, L de Jager, E Etzebeth, S Burger, D Vermeulen, F Louw.
Eilyddion: A Strauss, T Nyakane, J du Plessis, P-S du Toit, W Alberts, R Pienaar, P Lambie, J Serfontein