Mae pedwar o gricedwyr ifainc o Gymru wedi arwyddo cytundebau newydd gyda Chlwb Criced Morgannwg.

Mae’r batiwr 18 oed, Aneurin Donald wedi arwyddo’i gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r sir yn dilyn tymor llwyddiannus, ac fe fydd yntau’n aros yng Nghymru tan o leiaf 2018.

Daw’r newyddion wrth i Donald deithio i Awstralia dros y gaeaf i gymryd rhan yn Academi Darren Lehmann yn Adelaide.

Sgoriodd y batiwr ifanc o Abertawe 59 yn erbyn Swydd Hampshire ar ddiwedd tymor 2014, cyn dod o fewn trwch blewyn i daro’i ganred cyntaf i’r sir wrth iddo sgorio 98 yn erbyn Swydd Gaerloyw yn yr ornest olaf yn y Bencampwriaeth eleni.

Dywedodd Aneurin Donald: “Rwy wrth fy modd o gael arwyddo fy nghytundeb llawn amser gyda fy sir gartref.

“Rwy wedi dysgu tipyn o fod yn ystafell newid y tîm cyntaf a chwarae ochr yn ochr â’r chwaraewyr hŷn yn y garfan y tymor hwn, a nawr mae gyda fi gyfle i ddatblygu fy ngêm a chanolbwyntio ar fy nghriced.”

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Nawr bod Aneurin wedi gorffen ei astudiaethau, rydym wrth ein bodd o gael ei groesawu i’n staff fel chwaraewr proffesiynol llawn amser.

“Rwy’n credu bod gan Aneurin y gallu i fwynhau gyrfa hir a llwyddiannus gyda Morgannwg.”

Mae’r bowliwr cyflym Dewi Penrhyn Jones hefyd wedi arwyddo’i gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r Cymry, tra bod Jeremy Lawlor a Jack Murphy wedi arwyddo cytundebau datblygu am flwyddyn.

Daw’r cytundebau newydd ddiwrnod yn unig wedi i’r batiwr 29 oed Chris Cooke arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw yng Nghymru am dair blynedd arall.

Ychwanegodd Hugh Morris: “Rydym wrth ein bodd fod Dewi Penrhyn Jones, Jack Murphy, Jeremy Lawlor ac Aneurin Donald wedi arwyddo cytundebau newydd gyda Morgannwg.

“Mae’r chwaraewyr Cymreig hyn i gyd wedi symud ymlaen o’n rhaglen datblygu i ymddangos yn y tîm cyntaf am y tro cyntaf.

“Nod strategol y clwb yw darganfod a datblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr Cymreig ac mae’r talentau cartref hyn i gyd yn gallu llwyddo a chael anrhydeddau i Forgannwg.”