Mae tîm rygbi Ulster wedi atal sesiynau hyfforddi cyn eu gêm yn erbyn y Gweilch ar ôl i un aelod o’r brif garfan ac un chwaraewr academi brofi’n bositif am Covid-19.

Daw hyn ddeuddydd cyn bod disgwyl i’r tîm o ogledd Iwerddon deithio i Abertawe i wynebu’r Gweilch yn ail rownd cystadleuaeth y Pro14.

Mewn datganiad, dywed Ulster fod pum chwaraewr arall ac aelod o staff wedi’u nodi fel cysylltiadau agos i’r ddau chwaraewr.

“Yn dilyn cadarnhad fod dau chwaraewr wedi profi’n bositif, ein blaenoriaeth o hyd yw iechyd a diogelwch ein chwaraewyr a’n staff, felly rydym wedi gweithredu’n gyflym gan roi nifer o fesurau mewn lle, gan atal hyfforddi, a gofyn i’r rhai sydd wedi profi’n bositif hunanynysu ar unwaith,” meddai Michael Webb, Cyfarwyddwr Meddygol Rygbi Ulster.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Iechyd Cyhoeddus ac Undeb Rygbi Iwerddon i ddilyn yr holl gyngor iechyd angenrheidiol a chynorthwyo gyda’r broses olrhain cyswllt yn ôl yr angen, yn ogystal â darparu cefnogaeth i’r unigolion dan sylw.”

Y tîm Eidalaidd Benetton oedd gwrthwynebwyr Ulster gartref y penwythnos diwethaf.

Mae disgwyl i Rygbi Ulster brofi chwaraewyr a staff eto heddiw (dydd Iau, Hydref 8).

Achos hefyd ymhlith chwaraewyr Munster

Daw hyn wedi i Munster, rhanbarth yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyhoeddi ddydd Mawrth (Hydref 6) fod achos hefyd ymhlith eu carfan ar ôl teithio i Barc y Scarlets y penwythnos diwethaf.

Mae un chwaraewr wedi profi’n bositif ac mae chwech o chwaraewyr eraill yn hunanynysu.