Connacht 36–31 Gleision
Colli fu hanes y Gleision wrth iddynt ymweld â Maes Chwarae Galway i herio Connacht yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.
Cafodd y Gleision ddechrau da wrth i Rhys Patchell drosi cais Aled Summerhill wedi dim ond saith munud o chwarae.
Tarodd Connacht yn ôl bron yn syth gyda chais Marmion cyn sefydlu mantais iach gyda cheisiau Nepia Fox-Matamua a Danie Poolman.
Rhoddodd rheiny y Gwyddelod ddeuddeg pwynt ar y blaen ond roedd y Gleision yn ôl o fewn dau bwynt erbyn hanner amser diolch i gais Josh Turbull a phum pwynt o droed Patchell.
Fel yn yr hanner cyntaf, fe ddechreuodd y Gleision yn dda wedi’r egwyl, ac roeddynt yn ôl ar y blaen yn dilyn cais cynnar Dan Fish a throsiad Patchell.
Yn ôl y daeth Connacht unwaith eto serch hynny gan sicrhau’r fuddugoliaeth gyda dau gais cyflym hanner ffordd trwy’r hanner, y cyntaf i Tiernan O’Halloran a’r ail i Aly Muldowney.
Doedd dim buddugoliaeth i fod i’r Gleision felly ond fe wnaeth cais hwyr Sam Hobbs sicrhau, nid un, ond dau bwynt bonws i’r Cymry, y naill am fod yn bedwerydd cais a’r llall am ddod â’r sgôr terfynol o fewn saith pwynt, 36-31.
.
Connacht
Ceisiau: Kieran Marmion 10’, Nepia Fox-Matamua 22’, Danie Poolman 26’, Tiernan O’Halloran 57’, Aly Muldowney 63’
Trosiadau: Jack Carty 11’, 23’, 58’, 64’
Cic Gosb: Jack Carty 79’
Cerdyn Melyn: Tiernan O’Halloran 40’
.
Gleision
Ceisiau: Aled Summerhill 7’, Josh Turnbull 33’, Dan Fish 48’, Sam Hobbs 80’
Trosiadau: Rhys Patchell 7’, 34’, 49’, Gareth Davies 80’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 40’