Casnewydd 1–1 Caerwysg
Gêm gyfartal a gafodd John Sheridan yn ei gêm gyntaf wrth y llyw fel rheolwr newydd Casnewydd.
Caerwysg (Exeter) oedd yr ymwelwyr i Rodney Parade, ac er iddynt fynd ar y blaen ar yr awr fe darodd Casnewydd yn ôl i gipio pwynt.
Dim ond ddydd Gwener y dechreuodd Sheridan yn ei swydd newydd a gwyliodd berfformiad cystadleuol gan ei dîm mewn hanner cyntaf di sgôr.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr o’r ail hanner pan rwydodd Joel Grant yn dilyn gwaith creu Jordan Moore-Taylor.
Wnaeth Casnewydd ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn gyfartal ddeunaw munud o’r diwedd pan sgoriodd Lenell John-Lewis ar yr ail gynnig yn dilyn ymdrech wreiddiol Alex Rodman.
Felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r ddau dîm orfod fodloni ar bwynt yr un. Mae Casnewydd yn aros ar waelod tabl yr Ail Adran serch hynny gyda chwe phwynt o’r un ar ddeg gêm gyntaf.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Holmes, Taylor, Donacien, Barrow, Elito, Boden (Rodman 72′), Byrne, Klukowski (Owen-Evans 51′), Collins (Blackwood 65′), John-Lewis
Gôl: John-Lewis 73’
.
Caerwysg
Tîm: Olejnik, Brown, Tillson, Moore-Taylor, Ribeiro, Wheeler (Nicholls 78′), Holmes (Davies 78′), Oakley, Noble, Grant, Morrison
Gôl: Grant 61’
Cerdyn Melyn: Noble 87’
.
Torf: 2,870