Hyfforddwr Cymru Warren Gatland
Mae World Rugby wedi gofyn am esboniad gan Gymru yn dilyn adroddiadau bod grŵp o chwaraewyr sydd ddim yn y garfan swyddogol wedi cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer dydd Mercher.

Yn ôl rheolau Cwpan y Byd dyw chwaraewyr sydd ddim wedi cael eu cynnwys yn y garfan derfynol o 31 ddim yn cael bod yn rhan o ymarferion gyda’r grŵp swyddogol.

Dyw’r awdurdodau rygbi heb lansio ymchwiliad swyddogol eto, ond yn ôl PA Sport maen nhw’n bwriadu siarad â Chymru am y peth.

Hyd yn oed os ydyn nhw’n canfod bod Cymru wedi torri rheolau’r twrnament yn ystod y sesiwn ymarfer yn Surrey, ble mae’r tîm yn aros yr wythnos hon, mae’n debyg mai rhybudd neu ddirwy y bydden nhw’n ei gael yn hytrach na cholli pwyntiau.

Does dim awgrym ar hyn o bryd bod Cymru wedi torri unrhyw reolau Cwpan y Byd yn fwriadol.

Mae’n debyg bod y chwaraewyr ychwanegol a gymrodd ran yn yr ymarfer yn cynnwys Nicky Smith, Rob Evans, Rhys Patchell, Jordan Williams, Dan Baker, Kristian Dacey, Dan Fish ac Aled Summerhill.