Rob McCusker
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau fod eu cyn-gapten Rob McCusker wedi cael ei ryddhau o’i gytundeb er mwyn iddo allu ymuno â Gwyddelod Llundain.
Fe ymunodd McCusker, sydd yn wreiddiol o Wrecsam, â’r Scarlets yn 2003 fel prentis cyn chwarae’i gêm gyntaf dros y rhanbarth yn 2007.
Ers hynny mae’r chwaraewr 29 oed wedi cynrychioli tîm tref y sosban 135 o weithiau, gan arwain y tîm fel capten am ddau dymor, yn ogystal ag ennill chwe chap dros Gymru.
Yn ôl Rheolwr Rygbi Cyffredinol y Scarlets Jon Daniels roedd McCusker wedi bod yn awyddus i symud i Lundain er mwyn chwarae’n rheolaidd.
Ac fe ychwanegodd y chwaraewr rheng ôl ei fod wedi bod yn bleser ac yn fraint i gynrychioli’r Scarlets dros y blynyddoedd.
“Rydyn ni wedi cael sawl atgof cofiadwy dros y blynyddoedd gan gynnwys buddugoliaethau gwych yng Nghwpan Heineken dros Perpignan a Racing Metro, ac mae fy niolch i’n fawr i’r cefnogwyr sydd wedi bod yn gefn i ni drwy’r dyddiau da a’r drwg,” meddai Rob McCusker.