Taulupe Faletau
O wylio perfformiadau cyson Taulupe Faletau dros Gymru yn ystod y pedair blynedd diwethaf, fyddech chi ddim yn meddwl e o gwbl.
Ond mae wythwr Cymru wedi cyfaddef ei fod yn dal i deimlo’n nerfus wrth herio rhai o oreuon y byd ar y cae rygbi, pedair blynedd ers camu i’r llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf.
Mae hynny er gwaethaf cyfres o berfformiadau aeddfed a chryf dros ei wlad, gyda blaenwr y Dreigiau yn chwarae ym 49 o 57 prawf diwethaf Cymru.
Roedd yn un o sêr y tîm yng Nghwpan y Byd 2011, gan orffen y gystadleuaeth fel y prif daclwr a’r prif gariwr pêl.
“Roedd yn dir newydd i mi pedair blynedd yn ôl yng Nghwpan y Byd,” meddai Faletau, a chwaraeodd ym mhob un o’r gemau bryd hynny.
“Doeddwn i erioed wedi teithio â’r garfan o’r blaen, ac yn sydyn reit roeddwn i’n ymweld â’r holl lefydd gwych yma a chwarae yn yr holl gemau.
“Roedd e’n swreal, ond wrth edrych nôl nawr honno oedd y trip gorau i mi fod arni erioed. Roedd e i gyd yn newydd i mi, ac fe wnes i fwynhau e’n fawr.”
Chwarae cymaint â phosib
Mae Faletau bellach yn cael ei ystyried yn un o’r goreuon yn y byd yn ei safle, ond dyw’r chwaraewr 24 oed ddim yn un i frolio ei hun.
“Mae pedair blynedd wedi hedfan heibio [ers ei gap cyntaf], roeddwn i’n dweud wrth un o’r bois mod i dal yn gwylio gemau rhyngwladol ac yn pinsio fy hun mod i’n chwarae yn erbyn y chwaraewyr yma,” cyfaddefodd yr wythwr.
“Dydych chi ddim yn dod i arfer ag e. Rydych chi dal yn teimlo’r cyffro yn gwylio timau eraill a meddwl y byddwch chi’n chwarae yn eu herbyn nhw rywbryd.
“Pedair blynedd yn ddiweddarach, dw i dal yn cael yr un teimlad wrth redeg mas ar gyfer gêm ryngwladol. Does dim byd tebyg.
“Dw i wrth fy modd yn chwarae, a dw i’n cymryd pob cyfle i chwarae dros Gymru â dwy law. Dw i jyst eisiau bod allan ar y cae cymaint ag y galla’i.”
Lle i ddau
Gyda her fawr yn erbyn Lloegr i ddod dydd Sadwrn, a gornest yn erbyn Awstralia i gloi’r grŵp, mae Taulupe Faletau yn cyfaddef y bydd yn rhaid i’r tîm fod ar eu gorau i gyrraedd y rownd nesaf.
“Fe fydd pwy bynnag sy’n mynd drwyddo mewn siâp da gan eu bod nhw wedi cael rygbi cystadleuol o’r dechrau,” meddai Faletau.
“Fe fydd yr holl gystadleuaeth yna’n hwb i bwy bynnag fydd y ddau dîm sydd yn cyrraedd y chwarteri, a gobeithio y byddwn ni yn eu plith.”