Leinster 23–15 Gleision
Leinster aeth â hi mewn gêm Guinness Pro12 agos rhwng Leinster a’r Gleision yn yr RDS nos Sadwrn.
Un sgôr oedd rhwng y ddau dîm am ran helaeth o’r gêm cyn i’r Gwyddelod ei hennill hi gyda chais cosb bedwar munud o ddiwedd yr wyth deg.
Rhoddodd dwy gic gosb Rhys Patchell fanatais gynnar i’r Gleision cyn i’r Gwyddelod ymateb gyda chic gosb Isa Nacewa a chais yr wythwr, Jack Conan.
Roedd yr ymwelwyr o Gymru yn ôl o fewn pwynt erbyn hanner amser diolch i drydedd cic gosb lwyddiannus o droed Patchell.
Cyfnewidodd Patchell a Nacewa ddwy gic gosb arall yr un yn yr ail hanner gyda Leinster yn parhau bwynt ar y blaen wrth i’r gêm fynd i’w chwarter awr olaf.
Gorffennodd y Gleision y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg oherwydd cerdyn melyn hwyr Josh Navidi ac roedd y pwysau yn ormod i’r blaenwyr wrth iddynt ildio cais cosb bedwar munud o’r diwedd.
Rhoddodd trosiad syml Nacewa ddwy sgôr o fwlch rhwng y ddau dîm am y tro cyntaf a doedd dim ffordd yn ôl i’r Cymry.
.
Leinster
Ceisiau: Jack Conan 16’, Cais Cosb 76’
Trosiadau: Isa Nacewa 17’, 77’
Ciciau Cosb: Isa Nacewa 13’, 46’, 66’
.
Gleision
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 3’, 7’, 33’, 51’, 56’
Cerdyn Melyn: Josh Navidi 75’