Wrecsam 3–1 Altrincham                                                                

Dychwelodd Wrecsam i’r ail safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol gyda buddugoliaeth dros Altrincham ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd y Dreigiau wedi llithro fymryn ar ôl methu ag ennill yn eu dwy gêm ddiwethaf, ond maent yn ôl yn ail ar ôl altro yn erbyn Altrincham.

Llwyr reolodd Wrecsam yr hanner cyntaf a gallai James Gray fod yn hawdd wedi rhwydo hatric i’r tîm cartref yn yr ugain munud cyntaf.

Fe ddaeth gôl haeddiannol i’r Dreigiau wedi hynny pan darodd Scott Leather y bêl i’w rwyd ei hun o ergyd Connor Jennings.

Parhau i reoli a wnaeth Wrecsam wedi hynny ac roedd y fantais wedi dyblu ddau funud cyn yr egwyl pan beniodd Blaine Hudson groesiad Vose i gefn y rhwyd.

Rhoddodd Michael Rankine lygedyn o obaith i’r ymwelwyr wrth dynnu un yn ôl yn gynnar yn yr ail gyfnod, ond cadw eu record gartref 100% a wnaeth Wrecsam wedi i James Gray adfer y ddwy gôl o fantais toc cyn yr awr yn dilyn gwaith creu Wes York.

Mae’r Dreigiau’n dychwelyd i’r ail safle yn dilyn y fuddugoliaeth ond maent yn parhau wyth pwynt y tu ôl i Forest Green sydd wedi ennill pob un o’u naw gêm gyntaf.

.

Wrecsam

Tîm: Belford, Smith, Hudson, Jennings, Newton, Fyfield, Evans, Moke, York (Logan 81′), Gray (Smith 80′), Vose (Jackson 85′)

Goliau: Leather [g.e.h.] 20’, Hudson 43’, Gray 58’

.

Altrincham

Tîm: Deasy, Densmore, Leather, Moult (Havern 68′), Griffin, Parry, Heathcote (Crowther 54′), Sinnott, Lawrie, Rankine, Bowerman (Reeves 68′)

Gôl: Rankine 50’

.

Torf: 4,628