Casnewydd 1–2 Morecambe                                                         

Parhau mae tymor trychinebus Casnewydd yn yr Ail Adran wedi i gôl hwyr hwyr ennill y gêm i Morecambe ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Roedd hwn yn un o berfformiadau gorau’r Alltudion y tymor hwn ond doedd dim pwynt haeddiannol i fod wrth i Paul Mullin rwydo i’r ymwelwyr yn y pedwerydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Er gwaethaf eu dechrau gwael i’r tymor, fe ddechreuodd Casnewydd y gêm hon ar dân gan wastraffu sawl cyfle da i sgorio.

Daeth Scott Barrow, Aaron Collins, Mark Byrne a Scott Boden i gyd yn agos i’r tîm cartref mewn hanner cyntaf da.

Morecambe serch hynny oedd ar y blaen ar yr hanner diolch i beniad Alan Goodall o groesiad Jamie Devitt yn erbyn llif y chwarae ddeuddeg munud cyn yr egwyl.

Unionodd Barrow y sgôr yn haeddiannol hanner ffordd trwy’r ail gyfnod gydag ergyd dda o bum llath ar hugain.

Dichon fod y tîm cartref yn synhwyro buddugoliaeth gyntaf o’r tymor wedi hynny ond doedd hi ddim i fod wrth i Morecambe fynd â hi gyda chic o’r smotyn hwyr Mullin yn dilyn trosedd Aaron Hayden ar Kevin Ellison.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd ar droed tabl yr Ail Adran gydag un pwynt o saith gêm.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Hayden, Parselle, Partridge, Ofori-Twumasi, Boden (Elito 75′), Byrne, Owen-Evans, Barrow, Collins (Ansah 68′), John-Lewis

Gôl: Barrow 67’

Cardiau Melyn: Barrow 34’, Hayden 90’

.

Morcambe

Tîm: Roche, McGowan, Dugdale, Edwards, Molyneux, Goodall, Fleming, Barkhuizen (Mullin 80′), Wildig, Devitt (Kenyon 45′), Miller (Ellison 45′)

Goliau: Goodall 35’, Mullin 90’

Cerdyn Melyn: Dugdale 48’

.

Torf: 2,068