Caerdydd 2–0 Huddersfield                                                           

Mae dechrau da Caerdydd i’r tymor yn parhau wedi iddynt guro Huddersfield yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Maent bellach yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth diolch i goliau ail hanner Anthony Pilkington a Joe Mason.

Dechreuodd Caerdydd yn addawol a bu rhaid i gôl-geidwad Huddersfield, Jed Steer, fod yn effro i atal cynnig da Kenwyne Jones wedi dim ond pum munud.

Digon diflas oedd yr hanner cyntaf wedi hynny mewn gwirionedd er fod Jones yn meddwl y dylai fod wedi cael cic o’r smotyn.

Roedd yr ail hanner yn dipyn gwell ond gwastraffodd gyfle da arall i agor y sgorio wrth anelu yn syth at Steer.

Fe ddaeth y gôl agoriadol ugain munud o’r diwedd pan rwydodd Anthony Pilkington yn dilyn gwaith da yr eilydd, Sammy Ameobi.

Cafodd Ameobi gryn argraff ar y gêm ac roedd yn ei chanol hi unwaith eto pan sicrhaodd Mason y fuddugoliaeth yn fuan wedyn, Ameobi yn taro’r bêl heibio i Steer a Mason yn rhwydo.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r ail safle yn y tabl, bedwar pwynt y tu ôl i Brighton ar y brig.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier (Malone 19′), Morrison, Connolly, Fabio, Pilkington, Dikgacoi, Whittingham, Ralls, Jones (Ameobi 59′), Mason (Gunnarsson 86′)

Goliau: Pilkington 69’, Mason 77’

Cerdyn Melyn: Fabio 90’

.

Huddersfield

Tîm: Steer, Cranie, Ward, Lynch, Smith, Scannell, Hogg (Huws 64′), Whitehead, Bunn (Carayol 72′), Paterson (Miller 72′), Wells

Cerdyn Melyn: Hogg 16’

.

Torf: 13,715