Watford 1–0 Abertawe
Collodd Abertawe am y tro cyntaf y tymor hwn wrth deithio i Vicarage Road i herio Watford brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Ighalo’r tîm cartref ar y blaen toc cyn yr awr a methodd yr Elyrch a tharo nôl er iddynt chwarae yn erbyn deg dyn am yr hanner awr olaf yn dilyn cerdyn coch Behrami.
Teg dweud mai Watford a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond prin iawn oedd y cyfleoedd yn y ddau ben mewn hanner cyntaf di sgôr a digon di fflach.
Roedd Watford yn haeddu mynd ar y blaen ac fe wnaethant hynny funud cyn yr awr. Daeth peniad Troy Deeny o hyd i Odion Ighalo mewn llathenni o le a llwyddodd y blaenwr i guro Lukasz Fabianski yn y gôl.
Roedd y tîm cartref i lawr i ddeg dyn yn fuan iawn wedi hynny yn dilyn cerdyn coch i Valon Behrami am sathriad cas ar André Ayew.
Ond er i’r Elyrch chwarae dros chwarter y gêm yn erbyn un dyn yn llai, prin iawn oedd cyfleoedd i’r ymwelwyr a phan geisiodd Jonjo Shelvey ei lwc o bellter fe lwyddodd Gomes yn y gôl i’w atal.
Mae Abertawe yn llithro i’r chweched safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair yn dilyn eu colled gyntaf y tymor hwn.
.
Watford
Tîm: Gomes, Nyom, Prödl, Cathcart, Anya, Capoue, Behrami, Abdi (Watson 66′), Deeney (Diamanti 84′), Jurado, Ighalo (Berghuis 71′)
Gôl: Ighalo 59’
Cerdyn Melyn: Capoue 90’
Cerdyn Coch: Behrami 64’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Cork (Ki Sung-yueng – 66′), Shelvey, Ayew, Sigurdsson (Éder 71′), Routledge (Montero 60′), Gomis
Cerdyn Melyn: Ki Sung-yueng
.
Torf: 20, 057