Dreigiau Casnewydd Gwent 13–0 Zebre
Braidd yn siomedig oedd y Dreigiau yn erbyn Zebre yn y Guinness Pro12 nos Wener, er iddynt ennill y gêm ar Rodney Parade.
Wedi i’r Gleision roi crasfa iawn i’r Eidalwyr yr wythnos diwethaf roedd llawer yn disgwyl i’r Dreigiau gipio pwynt bonws hefyd, ond gêm ddigon di fflach a gafwyd wrth i’r tîm cartref ennill gydag un trosgais a dwy gic gosb.
Ciciodd Jason Tovey ei dîm ar y blaen wedi deuddeg munud wrth i’r Dreigiau lwyr reoli’r munudau cyntaf.
Chwaraewyd y gêm am gyfnodau hir yn nau ar hugain Zebre ond un gic gosb arall o droed Tovey yn unig oedd gan y tîm cartref i’w ddangos am eu goruchafiaeth yn yr hanner awr cyntaf.
Newidiodd hynny wedi i gapten Zebre, George Biagi, gael ei anfon i’r gell gosb ddeg munud cyn yr egwyl. Manteisiodd y Dreigiau yn syth wrth i Ed Jackson dirio yn dilyn sgarmes symudol o lein bump ymosodol. 13-0 y sgôr ar yr hanner wedi trosiad Tovey.
Roedd Zebre yn well wedi’r egwyl ac er i’r Dreigiau greu ambell gyfle da, roeddynt yn gwneud gormod o gamgymeriadau trafod yn hanner Zebre o’r cae.
Ni chafwyd unrhyw ychwanegiad at y sgôr yn yr ail ddeugain felly wrth i’r Dreigiau orfod bodloni ar fuddugoliaeth heb bwynt bowns.
.
Dreigiau
Cais: Ed Jackson 29’
Trosiad: Jason Tovey 30’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 12’, 26’
.
Zebre
Cardiau Melyn: George Biagi 28’, Andries Van Schalkwyk 68’