Leigh Halfpenny
Mae arbenigwr rygbi wnaeth ennill Cwpan y Byd gyda Lloegr yn 2003 wedi proffwydo na fydd Cymru yn gallu ymdopi gydag absenoldeb Leigh Halfpenny.

Yn ôl Matt Dawson, Lloegr ac Awstralia fydd yn camu o’r ‘Group of Death’ yng Nghwpan y Byd sy’n cychwyn wythnos i heddiw, a hynny ar draul y Cymry.

Dim ond y ddau dîm gorau sy’n cael camu o’r ‘Group of Death’ i rowndiau ola’r Gwpan, ac nid yw cyn-fewnwr y Saeson a’r Llewod yn disgwyl gweld Cymru yn llwyddo heb eu ciciwr cywiraf.

Meddai Matt Dawson yn ei golofn yn y Daily Mirror heddiw: ‘Mae Cymru heb Leigh Halfpenny fel tîm Lloegr 2003 heb Jonny Wilkinson.

‘Dyna faint y golled. Byddwn yn mynd cyn belled â dweud bod ei absenoldeb yn newid y darlun o ran pwy sydd am ddianc o’r Group of Death.

‘Nid yw dweud y canlynol yn rhoi unrhyw bleser i mi; ond erbyn hyn ni chredaf y bydd Cymru yn medru camu o’r grŵp…

‘Mae Halfpenny, fel Wilkinson gynt, yn gorfodi gwrthwynebwyr i newid eu dull o chwarae oherwydd eu bod yn ofni caniatáu’r cyfle iddo gicio pwyntiau hawdd…

‘Gyda doniau cicio at y pyst Halfpenny, fe fyddai’r Cymry wedi croesawu gemau tynn gyda’r sgôr yn agos hyd nes y munudau olaf… nid mwyach.’