Mae mewnwr Cymru a’r Gweilch, Rhys Webb wedi ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan awduron a gohebwyr rygbi yng Nghymru.
Sgoriodd Webb 19 o geisiau mewn 27 o gemau i Gymru a’r Gweilch y tymor diwethaf, ac fe gurodd y maswr Dan Biggar yn y ras am y wobr.
Yng nghrys Cymru, sgoriodd Webb geisiau yn erbyn Seland Newydd, Awstralia, Lloegr, Yr Alban a’r Eidal y tymor diwethaf.
Derbyniodd ei wobr yn ystod noson wobrwyo yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Gareth Edwards, Jonathan Davies, Scott Quinnell, Shane Williams, Sam Warburton ac Alun Wyn Jones.
James Davies, blaenasgellwr y Scarlets, gafodd ei ddewis fel y chwaraewr mwyaf addawol, a chanolwr Pontypridd, Dafydd Lockyear gipiodd y wobr am Chwaraewr y Flwyddyn yn Uwch Gynghrair y Principality.