Mae disgwyl i asgellwr Abertawe, Nathan Dyer symud ar fenthyg i Gaerlŷr tan ddiwedd y tymor.

Prin iawn fu cyfleoedd Dyer yn Stadiwm Liberty y tymor hwn, er ei fod wedi dod i’r cae fel eilydd yn ystod y fuddugoliaeth dros Newcastle yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Dyer yn cael profion meddygol cyn i’r trosglwyddiad gael ei gyhoeddi’n ffurfiol.