Mae cefnwr y Gweilch, Ross Jones wedi symud i Rotherham, sy’n chwarae ym Mhencampwriaeth Greene King IPA Lloegr.
Daeth y chwaraewr 23 oed i’r Gweilch yn dilyn cyfnod yn Academi Leinster.
Mae e wedi cynrychioli Ysgolion Iwerddon, a thimau dan 20 a saith bob ochr Cymru.
Chwaraeodd 21 o weithiau i’r Gweilch.
Ymddangosodd am y tro cyntaf i’r Gweilch oddi ar y fainc mewn gêm yn erbyn Caerwysg yng Nghwpan LV yn 2011, ac fe ddechreuodd ei gêm gyntaf wythnos yn ddiweddarach ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn erbyn Northampton.
Ymddangosodd mewn 14 o gemau yn ystod tymor 2012-13, gan gynnwys dwy gêm yng Nghwpan Heineken yn erbyn Toulouse.
Mewn datganiad, dymunodd y Gweilch yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.