Mae’r Dreigiau wedi cyhoeddi mai’r bachwr Thomas Rhys Thomas fydd capten newydd y rhanbarth ar gyfer y tymor i ddod.
Bydd y chwaraewr 32 oed yn cymryd yr awenau oddi wrth Lee Byrne, cyn-gefnwr Cymru a gyhoeddodd ar ddiwedd y tymor ei fod yn ymddeol.
Ni chwaraeodd Byrne rhyw lawer dros y rhanbarth tymor diwethaf oherwydd anafiadau, fodd bynnag, ac roedd T Rhys Thomas yn un o’r chwaraewyr fyddai’n aml yn arwain y tîm yn ei absenoldeb.
“Dw i mor falch o gael fy newis fel capten ar gyfer y tymor nesaf,” meddai’r bachwr, sydd wedi ennill 25 cap dros Gymru.
“Nes i wir fwynhau arwain y tîm llynedd, gyda’r her o geisio meithrin y dalent ifanc o Went i’r lefel nesaf. Mae newid llwyr wedi bod yn agwedd a safonau’r garfan ers i mi ymuno yn 2013 a dw i’n edrych ymlaen at y tymor nesaf.”
Argraff ar Lyn
Ychwanegodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau, Lyn Jones, fod y blaenwr o Abercynon yn ddewis naturiol fel capten.
“Mae Rhys wedi gwneud argraff fawr ar bawb yma yn y Dreigiau,” meddai Lyn Jones.
“Mae bod yn gadarn, aeddfed a pherfformio’n gyson wedi’i wneud e’n ddewis gwych fel rôl fodel ac fel capten.
“Mae bod yn gryf a phositif yn sgiliau allweddol ar gyfer arweinydd ac mae hynny’n hanfodol os ydi’n carfan ni am barhau i dyfu.”