Geraint Thomas a Chris Froome
Mae Geraint Thomas wedi dweud fod ras y Tour de France eleni wedi rhoi’r hyder iddo gredu y gallai arwain tîm Sky ar y daith seiclo yn y dyfodol.

Gorffennodd y Cymro yn 15fed yn y ras eleni, wrth i’w gyd-seiclwr yn nhîm Sky Chris Froome ddal ei afael ar y crys melyn ac ennill Le Tour am yr ail waith.

Geraint Thomas oedd wedi gwneud llawer o’r gwaith cynorthwyo i Froome am bythefnos cyntaf y ras, a hyd nes y ddau gymal olaf yn yr Alpau roedd gan yntau obaith o fod ar y podiwm ym Mharis.

Ond roedd digon o reswm i’r Cymry ddathlu’r canlyniad eleni, yn enwedig wrth i Luke Rowe hefyd gwblhau’r ras gyda Sky a gweld dau Gymro’n croesi’r llinell derfyn wrth y Champs Elysees am y tro cyntaf erioed.

Arwain taith?

Mae pennaeth Team Sky, Syr Dave Brailsford, eisoes wedi dweud y gallai Geraint Thomas arwain tîm yn un o rasys seiclo mwyaf y byd – y Tour de France, Vuelta a Espana neu’r Giro d’Italia.

Ac mae’r gŵr o Gaerdydd yn teimlo fod y daith eleni wedi profi ei fod yn ddigon da i gystadlu â’r goreuon.

“Mae’n sicr wedi rhoi lot o hyder ac anogaeth i mi,” meddai Geraint Thomas.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen [at y dyfodol]. Dw i’n meddwl taswn i’n arweinydd fan hyn y bydden i’n agos at y podiwm, taswn i ddim yn gwneud cymaint yn gynnar [yn y ras] – er bod e’n hawdd dweud hynny nawr, mae’n rhywbeth hoffwn i ystyried edrych arno.

“Mae’n deimlad gwych [ennill eleni]. Fe wnaethon ni e yn 2013 ond tro yma mae’n teimlo hyd yn oed yn well, falle achos nes i chwarae rôl llawer mwy.”