Roedd llwyddiant i rai o athletwyr Cymru yn y Gemau Para-athletau Blynyddol yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain heddiw.
Dyma’r trydydd tro i’r gemau – sy’n rhan o waddol Gemau Paralympaidd 2012 – gael eu cynnal.
Roedd medal efydd i Laura Sugar yn y ras 100m yng nghategori T44, wrth iddi orffen y ras mewn 13.74 eiliad.
Yn fuddugol yn y ras honno roedd Marlou van Rhijn o’r Iseldiroedd, wrth iddi dorri record y stadiwm wrth orffen y ras mewn 13.04 eiliad. Mae hi eisoes wedi torri record y byd bedair gwaith yn 2015.
Roedd medal efydd hefyd i Olivia Breen yn ras y 100m yng nghategori T38, wrth iddi dorri ei record bersonol wrth orffen y ras mewn 13.42 eiliad.
Gorffennodd Rhys Jones ei ras 100m yng nghategori T37 mewn 11.96 eiliad i orffen yn y pumed safle.