Roedd y glaw yn drech na Morgannwg a Swydd Nottingham pan gyfarfu’r ddwy sir ym Mansfield ddydd Sul.

Hon oedd yr ornest gyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London y tymor hwn.

Roedd Swydd Nottingham yn 83-3 oddi ar 23 o belawdau pan ddaeth yr ornest i ben.

Bydd Morgannwg yn herio Swydd Gaint yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd yn y gystadleuaeth hon ddydd Mawrth.