Mae gyrrwr Ferrari Sebastian Vettel wedi talu teyrnged i Jules Bianchi ar ôl ennill ras Grand Prix Hwngari y prynhawn yma.
Bu farw Bianchi yr wythnos diwethaf ar ôl bod mewn coma am naw mis yn dilyn gwrthdrawiad mewn ras yn Siapan.
Dywedodd Vettel ei fod wedi ennill y ras er cof am Bianchi ac mewn cydymdeimlad â’i deulu.
Daniil Kvyat oedd yn ail, a Daniel Ricciardo yn drydydd – y ddau yn aelodau o dîm Red Bull.
Teyrngedau
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal cyn y ras, ac fe wnaeth y gyrrwr ymgynnull o gwmpas helmedau ar y trac, a helmed Bianchi yn eu canol, wrth i anthem Hwngari gael ei chanu.
Ymunodd aelodau o deulu Bianchi yn y cylch, ac roedd ei dad a’i frawd yn gwisgo crysau T ‘JB #17’.
Roedd Bianchi yn anymwybodol am naw mis yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd ar ymyl y trac ar Hydref 5.
Cafodd ei angladd ei gynnal yn Nice yn Ffrainc ddydd Mawrth.
Fe fydd rhif 17 ar gar Bianchi yn cael ei ymddeol o hyn ymlaen.
Bianchi yw’r gyrrwr cyntaf i gael ei ladd mewn ras ers Ayrton Senna yn San Marino yn 1994.
Dywedodd Sebastian Vettel, ar achlysur ei fuddugoliaeth gyntaf yn Hwngari: “Mae’r fuddugoliaeth hon i Jules. Mae hi wedi bod yn wythnos eithriadol o anodd.
“Fe wyddon ni y byddai Jules, rywbryd neu’i gilydd, wedi bod yn aelod o dîm Ferrari, ac felly mae’r fuddugoliaeth hon iddo fe.”
Dywedodd cyfaill agos Bianchi, Daniel Ricciardo: “Mae arna i’r ras hon i Jules.”