Rheolwr Cymru Chris Coleman (llun: CBDC)
Fe fydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018 gartref yn erbyn Moldofa.

Bydd y crysau cochion yn teithio i Awstria ar gyfer eu hail gêm, cyn wynebu Georgia a Serbia gartref yn 2016.

Bydd chwech o’r gemau yn cael eu chwarae yn 2017, gyda’r ymgyrch yn gorffen gyda gêm gartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Cafodd y grwpiau eu dewis mewn seremoni yn St Petersburg ddoe, gyda thîm Chris Coleman yn wynebu Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.

Cymru oedd prif ddetholion y grŵp, a hynny ar ôl blwyddyn wych i’r tîm ble maen nhw wedi codi eu hunain i frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc.

Y rheolwr yn hyderus

Wrth ymateb ddoe i’r timau fydd yng ngrŵp Cymru dywedodd rheolwr y tîm Chris Coleman nad oedd ganddyn nhw reswm i ofni’r gwrthwynebwyr.

“Rydan ni’n edrych ymlaen. Mae timau da mewn yna, timau cryf,” meddai Coleman.

“Dyw e byth yn hawdd mynd i lefydd fel Moldofa a Georgia. Mae wastad yn anodd iawn ac, wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor dda yw Gweriniaeth Iwerddon ac Awstria.

“Yn yr ymgyrch ddiwethaf yng Nghwpan y Byd [rowndiau rhagbrofol 2014] fe chwaraeon ni yn erbyn Serbia a cholli’n drwm ddwywaith, felly rydyn ni’n gwybod fod timau da yno.

“Ond rydyn ni’n gwybod ein bod ni wedi gwella’n sylweddol dros y dwy i dair blynedd diwethaf ac ar hyn o bryd, ar ein cryfaf, fe allwn ni herio unrhyw un.”

Trefn y gemau

Dydd Llun, 5 Medi 2016
Cymru v Moldofa
Cic gyntaf: 7.45yh

Dydd Iau, 6 Hydref 2016
Awstria v Cymru
Cic gyntaf: 7.45yh

Dydd Sul, 9 Hydref 2016
Cymru v Georgia
Cic gyntaf: 5.00yh

Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd 2016
Cymru v Serbia
Cic gyntaf: 7.45yh

Dydd Gwener, 24 Mawrth 2017
Gweriniaeth Iwerddon v Cymru
Cic gyntaf: 7.45yh

Dydd Sul, 11 Mehefin 2017
Serbia v Cymru
Cic gyntaf: 7.45yh

Dydd Sadwrn, 2 Medi 2017
Cymru v Awstria
Cic gyntaf: 7.45yh

Dydd Mawrth, 5 Medi 2017
Moldofa v Cymru
Cic gyntaf: 7.45yh

Dydd Gwener, 6 Hydref 2017
Georgia v Cymru
Cic gyntaf: 5.00yh

Dydd Llun, 9 Hydref 2017
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon
Cic gyntaf: 7.45yh