Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman yn disgwyl i Gareth Bale aros gyda chlwb Real Madrid, gan ddweud bod y tîm cenedlaethol yn elwa o hynny.

Mae adroddiadau’n cysylltu’r chwaraewr 26 oed â throsglwyddiad i Man U, ond mae Coleman yn awyddus i Bale aros yn Sbaen.

Ar y noson y gwnaeth Cymru ddarganfod  pwy fyddan nhw’n herio yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, fydd yn cael ei gynnal yn Rwsia yn 2018, dywedodd Coleman: “Bydd Gareth yn gwneud beth fynno, mae e’n ddigon da i chwarae i unrhyw dîm ar y blaned ond dw i’n credu y bydd e fwy na thebyg yn aros ym Madrid, a phwy fyddai’n gweld bai arno am hynny?

“Mae pwysau wrth chwarae dros Real Madrid ond mae Gareth yn un o’r chwaraewyr hynny sy’n gallu ymdopi’n iawn.

“Mae gofynion chwarae yn yr Uwch Gynghrair a’r gofynion wrth chwarae yn La Liga yn wahanol.

“O’n safbwynt ni, ry’n ni’n cael Gareth Bale ffres – pe bai e yn yr Uwch Gynghrair, fe fyddai mwy o bwysau arno’n gorfforol.”

Er ei fod yn barod iawn i ganu clodydd Bale, mae Coleman yn benderfynol nad yw Cymru’n ‘dîm un dyn’.

“Does neb erioed wedi dweud hynny wrtha i ac ni fyddai unrhyw un sydd wedi ein gweld ni’n chwarae byth yn dweud hynny.

“Mae gyda ni lot o dalent yn ein tîm ni, mae ein holl lwyddiannau wedi digwydd oherwydd ymdeimlad y tîm ac mae Gareth yn ffitio i hynny.

“Ry’n ni’n dîm anodd i chwarae yn ein herbyn, mae’n anodd ein torri ni i lawr ac mae gyda ni unigolion sy’n sgorio goliau ac yn ennill gemau.”

Fe fydd Cymru’n herio Gweriniaeth Iwerddon, Awstria, Serbia, Moldofa a Georgia yng Ngrŵp D yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

Ond y flaenoriaeth o hyd i Coleman yw sicrhau lle Cymru yn Ewro 2016, ac mae ei gytundeb yn dod i ben ar ôl hynny.