George North
Mae George North wedi datgan ei hun yn “ffit ac yn iach” wrth iddo baratoi at ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Dyw’r asgellwr heb chwarae ers iddo ddioddef cyfergyd yn chwarae i Northampton yn erbyn Wasps ar 27 Mawrth.

Bu’n rhaid i George North stopio chwarae yn dilyn ergyd damweiniol i’w ben gan Nathan Hughes wrth i Northampton guro 52-30 yng Ngerddi Franklin.

Ond mae disgwyl i’r chwaraewr 23 mlwydd oed gael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ddydd Llun, ac mae wedi dweud ei fod yn barod i ymroi ei hun yn llawn i’r paratoadau ar gyfer y twrnamaint yn yr hydref.

Meddai George North: “Rwy’n teimlo’n ffit ac yn iach nawr, ac yn edrych ‘mlaen at yr hyn sydd o’n blaenau.”

Mae cyfarwyddwr rygbi Northampton, Jim Mallinder, wedi beirniadu rheolwr Cymru Warren Gatland wedi iddo rybuddio y byddai un cyfergyd arall yn bygwth gyrfa George North.