Tarodd Craig Meschede ganred (107) ar ddiwrnod agoriadol yr ornest Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Northampton yn Stadiwm Swalec, gan gyrraedd ei gyfanswm dosbarth cyntaf gorau erioed.

Mae’r cyfanswm yn trechu’r 101 heb fod allan sgoriodd e yn erbyn Swydd Surrey ddechrau’r tymor hwn.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 371 wedi iddyn nhw gael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, ar ddiwrnod a gafodd ei gwtogi gan y glaw.

Roedd batiad Meschede – sydd ar fenthyg am dymor o Wlad yr Haf – yn cynnwys 17 pedwar ac un chwech, ac fe wynebodd 109 o belenni.

Dechrau digon siomedig gafodd Morgannwg i’r batiad wrth iddyn nhw golli wicedi’r capten Jacques Rudolph a Will Bragg yn gynnar.

Roedden nhw’n 150-6 pan ddaeth Meschede a Cooke (73) at ei gilydd ar gyfer partneriaeth o 108 am y seithfed wiced.

Yr unig sgoriwr arall o nod oedd Ruaidhri Smith, oedd wedi rhedeg allan o bartneriaid ac yntau un rhediad yn brin o’i hanner canred.

Wynebodd Swydd Northampton belawd ac roedden nhw’n 0-0 pan ddaeth y chwarae i ben am y dydd.