Mae tri o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Caerlŷr ynghlwm wrth sgandal rhyw a hiliaeth wedi iddyn nhw gael eu ffilmio’n sarhau dynes o Wlad Thai, yn ôl y Sunday Mirror.

Mae’r ffilm yn dangos Tom Hopper, Adam Smith a James Pearson – mab y rheolwr Nigel – yn cael rhyw â nifer o fenywod, ac yn anelu sylwadau hiliol at un ohonyn nhw.

Mae gan y clwb berchnogion o Wlad Thai, ac roedd y garfan yn y wlad fel rhan o ddathliadau wedi iddyn nhw lwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Mae’r clip yn dangos y chwaraewyr yn sarhau’r menywod ac yn chwerthin.

Dydy’r clwb ddim wedi gwneud sylw am y mater, ond mae cefnogwyr wedi dangos eu dicter ar wefannau cymdeithasol a fforymau.

Mae’r rheolwr Nigel Pearson yn ymgyrchydd brwd yn erbyn hiliaeth ac mae’n weithgar gyda’r elusen ‘Show Racism the Red Card’.

Mae gan y clwb gysylltiadau agos â diwydiant twristiaeth Gwlad Thai, ac mae logo’r awdurdod twristiaeth yn ymddangos ar grysau’r clwb.