Lee Selby o’r Barri yw pencampwr pwysau plu y byd, wedi iddo drechu Evgeny Gradovich o Rwsia yng nghanolfan O2 yn Llundain neithiwr.
Cafodd yr ornest ei hatal gan y dyfarnwr yn yr wythfed rownd.
Selby yw’r trydydd Cymro – ynghyd â Howard Winstone a Steve Robinson – i gipio teitl y byd ar gyfer y pwysau hyn, a’r deuddegfed pencampwr byd o Gymru ar gyfer unrhyw bwysau.
Roedd Gradovich yn ddi-guro tan neithiwr.
Roedd buddugoliaeth neithiwr hefyd i ddau Gymro arall – Nathan Cleverley, oedd wedi curo Tomas Man o Weriniaeth Tsiec mewn 24 eiliad, a Craig Evans oedd wedi curo Scott Cardle.