Mae llyfr am un o deithiau enwocaf tîm rygbi’r Llewod wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau nodedig y Cross British Sports Book Awards 2015.
Cafodd Undefeated – The Story of the 1974 Lions gan Rhodri Davies ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa i nodi deugain mlynedd ers llwyddiant ysgubol y Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn Ne Affrica.
Fe fydd y llyfr, sydd bellach ar ei hail argraffiad, ymysg y rheiny ar restr fer Llyfr Rygbi’r Flwyddyn ac fe fydd enillwyr y naw categori gwahanol yn cael eu cyhoeddi ar 3 Mehefin.
‘Marchnad gystadleuol’
Yn ogystal â chyfrol Rhodri Davies, mae llyfrau nifer o sêr mawr y byd chwaraeon gan gynnwys Gareth Thomas a Nicole Cooke wedi cael eu henwebu eleni.
Ac fe gyfaddefodd y darlledwr o Benarth, sydd yn ohebydd ar raglen Heno, bod y farchnad llyfrau chwaraeon yn un cystadleuol iawn.
“Dwi wrth fy modd!” meddai Rhodri Davies wrth drafod ei le ar y rhestr fer. “Mae llyfrau chwaraeon ar eu hanterth y dyddiau hyn, ac mae’r farchnad yn un gystadleuol, felly dwi’n falch iawn fod y llyfr yn cael cydnabyddiaeth.
“Mae’n deimlad braf taw awduron a newyddiadurwyr eraill sydd wedi dewis y llyfr.
“Dw i’n falch dros ben ar ran y Lolfa hefyd, gan fod hyn yn brawf o’r ffaith eu bod nhw’n gallu cynhyrchu llyfrau sy’n cystadlu yn erbyn cyhoeddwyr adnabyddus Prydeinig sydd â chyllidebau sylweddol fwy!”
‘Y gorau erioed’
Yn ôl Rhodri Davies, roedd llwyddiant y Llewod yn Ne Affrica yn 1974 hyd yn oed yn well na beth gyflawnodd y tîm yn Seland Newydd yn 1971.
Ond tîm 1971 sydd yn cael llawer o’r clod heddiw, ac felly roedd yr awdur yn awyddus i roi sylw i’r bechgyn oedd wedi cael eu hanghofio i raddau.
“Fe’m hysbrydolwyd i ysgrifennu’r gyfrol yn 2011 ar ôl i mi gynhyrchu a chyflwyno rhaglen ddogfen i S4C oedd yn sôn am lwyddiant Llewod 1971 yn Seland Newydd,” esboniodd Rhodri Davies.
“Yn ddigon teg, fe glodforwyd llwyddiant y garfan honno ar achlysur 40 mlwyddiant eu hymgyrch, ac o ganlyniad fe ddechreuais feddwl am y daith ganlynol i Dde Affrica.
“Dyma daith oedd yn rhagori ar lwyddiant tîm 1971, ond eto mae’n daith na ddathlwyd i’r un graddau. Felly pam? Mae Undefeated yn ceisio ateb y cwestiwn yma, ac yn talu teyrnged orddyledus i Lewod 1974 – y gorau erioed, yn fy marn i.”