Ken Owens
Mae tîm rygbi Cymru wedi galw bachwr y Scarlets Ken Owens i garfan y Chwe Gwlad.

Mae Ken Owens, sydd wedi ennill 26 o gapiau i’w wlad, wedi ymuno a’r garfan heddiw.

Bydd ymgyrch Chwe Gwlad Cymru yn parhau ddydd Sadwrn nesaf pan fyddan nhw’n croesawu’r ffefrynnau am y teitl eleni, Iwerddon, i Stadiwm y Mileniwm.

Bydd y prop Tomas Francis hefyd yn hyfforddi gyda charfan Cymru o heddiw ymlaen. Cafodd Tomas Francis, 22, ei eni yng Nghaerefrog, ond mae’n gymwys i chwarae i Gymru ac wedi creu argraff yn chwarae i Exeter y tymor hwn.