Dreigiau Casnewydd Gwent 26–22 Ulster

Cwblhaodd y Dreigiau benwythnos perffaith i ranbarthau Cymru yn y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dros Ulster ar Rodney Parade brynhawn Sul.

Gyda’r tri rhanbarth arall eisoes wedi ennill, fe wnaeth y Dreigiau hi’n bedair allan o bedair gyda buddugoliaeth dda yn erbyn tîm sydd tua brig y tabl.

Roedd y Dreigiau bwynt ar y blaen ar yr egwyl diolch i ddwy gic gosb Tom Prydie er mai’r Gwyddelod a sgoriodd unig gais yr hanner – Craig Gilroy yn cwblhau symudiad slic.

Rhoddodd cic gosb Ruan Pienaar yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod ond ymatebodd y Dreigiau yn wych gyda dau gais. Daeth y cyntaf i Rhys Buckley yn dilyn sgarmes symudol rymus ac roedd yr ail yn ymgais unigol dda gan Jonathan Evans.

Rhoddodd trosiad Dorian Jones y Dreigiau 21-8 ar y blaen ac er i Ulster orffen yn gryf gan sgorio dau gais, roedd un arall i’r Dreigiau hefyd gyda Carl Meyer yn sicrhau’r fuddugoliaeth saith munud o’r diwedd.

Aros yn ddegfed yn nhabl y Pro12 mae y Dreigiau er gwaethaf y canlyniad.
.
Dreigiau
Ceisiau:
Rhys Buckley 54’, Jonathan Evans 61’, Carl Meyer 73’
Trosiad: Dorian Jones 62’
Ciciau Cosb: Tom Prydie 13’, 26’, Dorian Jones 50’
.
Ulster
Ceisiau:
Craig Gilroy 21’, 69’, Ross Adair 79’
Trosiadau: Ruan Pienaar 70’, 80’
Cic Gosb: Ruan Pienaar 47’
Cerdyn Melyn: Callum Black 53’