Caerfyrddin 1–2 Y Rhyl
Mae’r Rhyl yn yr het ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar ôl trechu Caerfyrddin yn yr wyth olaf ar Barc Waun Dew brynhawn Sul.
Rhoddodd goliau hanner cyntaf Mark Cadwallader ac Ashley Ruane fantais hanner amser i’r Rhyl ac er i Cortez Belle dynnu un yn ôl i Gaerfyrddin wedi’r egwyl doedd hynny ddim yn ddigon wrth i’r ymwelwyr ddal eu gafael.
Pedwar munud yn unig oedd ar y cloc pan fanteisiodd Cadwallader ar gamgymeriad Lee Idzi i roi’r Rhyl ar y blaen. Rhoddodd cic wael gôl-geidwad Caerfyrddin y meddiant yn syth i’r gwrthwynebwyr a thila iawn oedd ei ymdrech i arbed ergyd Cadwallader ar ei ffordd i’r rhwyd hefyd.
Bu rhaid aros ugain munud am gyfle cyntaf Caerfyrddin ond peniodd Belle yn syth at Alex Ramsay yn y gôl.
Ddeg munud yn ddiweddarach fe ddyblodd y Rhyl eu mantais yn rhy rhwydd o lawr, cafodd Ruane ormod o le o i benio cic gornel Levi Makin i gefn y rhwyd.
Fe allai Caerfyrddin fod wedi cael cic o’r smotyn yn fuan wedyn wrth i Ryan Astles lorio Lewis Harling ond ymlaen â’r gêm oedd penderfyniad y dyn yn y canol, Dean John.
Roedd yr Hen Aur dipyn gwell yn yr ail hanner a chafodd Belle a Sacha Walters gyfleoedd i sgorio toc wedi’r awr.
Fe ddaeth y gôl hanner ffordd trwy’r hanner wrth i Belle rwydo o’r smotyn ar ôl cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Ramsay.
Parhau i bwyso a wnaeth y tîm cartref wedi hynny i geisio gorfodi amser ychwanegol a bu bron iddynt wneud hynny gydag ergyd hwyr Paul Fowler ond tarodd y cynnig gwych o ugain llath yn erbyn y postyn.
Bydd Y Rhyl yn herio’r Drenewydd yn y rownd gynderfynol gydag Airbus a’r Seintiau Newydd yn wynebu ei gilydd yn y llall.
.
Caerfyrddin
Tîm: Idzi,, Cummings, Hanford, Belle, Wells, Fowler, Harling, Bassett, Morgan, Thomas (White 87’), Walters
Gôl: Belle [c.o.s.] 67’
Cardiau Melyn: Bassett 13’, Cummings 80’, Walters 82’
.
Y Rhyl
Tîm: Ramsay, Halewood, Dawson (Gossett 90’), Stones, Ruane, Astles, Brewerton (Walsh 61’), Makin, Cadwallader, Thompson, Lamb (Kenny 74’)
Goliau: Cadwallader 4’, Ruane 30’
Cardiau Melyn: Ramsay 65’, Kenny 75’, Makin 88’
.
Torf: 330