Scarlets 23–13 Leinster

Y Scarlets oedd y trydydd rhanbarth o Gymru i guro un o’r Gwyddelod gartref yn y Guinness Pro12 y penwythnos hwn.

Yn dilyn buddugoliaethau i’r Gleision a’r Gweilch yn erbyn Connacht a Munster, fe wnaeth Bois y Sosban hi’n dair allan o dair yn erbyn Leinster ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.

Rhoddodd Steve Shingler y Scarlets ar y blaen gyda chic gosb ond Leinster a’i canolwr, Ben Te’o, a gafodd gais cyntaf y gêm, 3-7 y sgôr hanner ffordd trwy’r hanner wedi trosiad Jimmy Gopperth.

Ychwanegodd maswr yr ymwelwyr gic gosb at gyfanswm ei dîm yn fuan wedyn ond dau bwynt yn unig oedd ynddi ar yr egwyl diolch i gais John Barclay i’r tîm cartref.

Aeth Bois y Sosban ar y blaen wedyn yn gynnar yn yr ail hanner pan groesodd y gwibiwr, Jordan Williams, am ail gais ei dîm.

Rhoddodd trosiad Shingler bum pwynt rhwng y ddau dîm ond caeodd Gopperth y bwlch i ddau bwynt gyda chic gosb, 15-13 gyda chwater y gêm i fynd.

Daeth trydydd cais i’r Cymry chwarter awr o’r diwedd pan diriodd yr eilydd, Rory Pitman, ac roedd dwy sgôr rhwng y ddau dîm wedi cic gosb Rhys Priestland bum munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12 ac yn cadw Leinster yn bumed.

.
Scarlets
Ceisiau:
John Barclay 28’, Jordan Williams 51’, Rory Pitman 65’
Trosiad: Steve Shingler 52’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 9’, Rhys Priestland 75′

.
Leinster
Cais:
Ben Te’o 18’
Trosiad: Jimmy Gopperth 19’
Ciciau Cosb: Jimmy Gopperth 25’, 57’