Stevenage 2–1 Casnewydd
Llithrodd Casnewydd allan o safleoedd ail gyfle’r Ail Adran wrth golli yn erbyn Stevenage ar Ffordd Broadhall brynhawn Sadwrn.
Peniodd Charlie Lee y tîm cartref ar y blaen o gic gornel Simon Walton wedi hanner awr o chwarae ac felly yr arhosodd pethau tan hanner amser.
Dyblwyd y fantais hanner ffordd trwy’r ail hanner gyda pheniad arall, Bria Dembele y sgoriwr y tro hwn o gic rydd Ben Kennedy.
Fe wnaeth Adam Chapman dynnu un yn ôl i’r Alltudion gydag ychydig funudau i fynd ond ni ddaethant o hyd i’r ail er iddynt chwarae dros saith munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Roedd hynny’n ddigon o amser serch hynny i’w heilydd, Chris Zebroski, dderbyn dau gerdyn melyn a chael ei anfon oddi ar y cae.
Mae’r canlyniad yn codi Stevenage dros Gasnewydd yn y tabl ond mae’r Alltudion yn llithro ddau le i’r nawfed safle gan i Plymouth ennill hefyd.
.
Stevenage
Tîm: Day, Henry, Wells, Dembele, Okimo, Pett, Parrett (Andrade 82′), Walton, Lee, Kennedy (Bond 94′), Beardsley (Keane 59′)
Goliau: Lee 31’, Dembele 67’
Cerdyn Melyn: Wells 90+2’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Jackson, Yakubu (Feely 53′), Jones, Tutonda, Chapman, Willmott, Porter (Minshull 77′), Byrne, Storey, Klukowski (Zebroski 55′)
Gôl: Chapman 88’
Cardiau Melyn: Feely 71’, Willmott 84’, Zebroski 90+2’, 90+7’
Coch: Zebroski 90+7’
.
Torf: 2,941