Caerdydd 1–2 Charlton
Ildiodd Caerdydd ddwy gôl hwyr wrth golli yn erbyn Charlton yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Roedd yr Adar Gleision yn arwain diolch i gôl Federico Macheda yn gynnar yn yr ail gyfnod ond ildiodd y tîm cartref ddwy gôl yn y deunaw munud olaf wrth golli gafael ar y tri phwynt.
Yn dilyn hanner cyntaf tanllyd ond di sgôr, cymrodd ddeg munud o’r ail hanner i Macheda agor y sgorio yn dilyn gwaith da gan Kenwyne Jones i dynnu’r bêl yn ôl iddo.
Yn ôl y daeth Charlton wedi hynny ac roeddynt yn gyfartal pan groesodd Chris Eagles i Tony Watt i rwydo yn y cwrt cosbi ddeunaw munud o’r diwedd.
Chwaraeodd Cymro ran ganolog yn y gôl fuddugol ond yn anffodus i gefnogwyr Caerdydd nid oes Cymro yn eu carfan hwy (ers i Declan John adael ar fenthyg i Barnsley ddoe).
Eilydd Charlton, Simon Church yn hytrach oedd y Cymro dan sylw, ef enillodd gic o’r smotyn i’r ymwelwyr dri munud o’r diwedd i alluogi Yoni Buyens gipio’r tri phywnt gyda gôl o ddeuddeg llath.
Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn bymthegfed yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Connolly, Ecuele Manga, Morrison, Peltier, McAleny (Kennedy 61′), Gunnarsson (Ralls 31′), Whittingham, Noone, Macheda (Revell 84′), Jones
Gôl: Macheda 56’
Cerdyn Melyn: Connolly 40’
.
Charlton
Tîm: A Henderson (Dmitrovic 45′), Solly, Gomez, Johnson, Fox, Berg Gudmundsson, Buyens, Lepoint (Eagles 61′), Cousins, Bulot (Church 74′), Watt
Goliau: Watt 74’, Buyens 87’
Cardiau Melyn: Fox 35’, Lepoint 43’
.
Torf: 20,488