Scott Williams
Mae’r Scarlets yn croesawu Scott Williams yn ôl i’r tîm ar gyfer eu gêm yn erbyn Leinster ar Barc y Scarlets dydd Sadwrn.
Cafodd is-gapten y Scarlets ei ryddhau o garfan Cymru’r wythnos hon er mwyn cymryd rhan yn y gêm, ac fe fydd yn chwarae ochr yn ochr â Regan King yn y canol.
Ond dim ond lle ar y fainc sydd i Rhys Priestland a Gareth Davies, dau arall o’r Scarlets sydd wedi bod gyda’r tîm cenedlaethol.
Yr unig newid arall i’r tîm yw Johan Snymans sydd yn dod i mewn yn yr ail reng, gyda Lewis Rawlins yn symud i’r rhwng ôl oherwydd anaf i Aaron Shingler.
Mae dychweliad Scott Williams yn golygu bod Hadleigh Parkes yn symud o’r canol i’r asgell, gan fod Michael Tagicakibau ddim ar gael oherwydd cyfergyd.
Dyw Liam Williams, Samson Lee, Jake Ball a Rob Evans ddim ar gael oherwydd eu bod nhw dal gyda charfan Cymru, tra bod gan y Scarlets hefyd 13 o chwaraewyr allan gydag anafiadau.
Gobaith am y chweched safle
Mae’r Scarlets yn seithfed yn nhabl y Pro12 ar hyn o bryd gyda Leinster yn bedwerydd, 13 pwynt yn well na nhw.
Ond mae prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac yn hyderus y bydd y tîm yn gorffen yn y chwech uchaf os ydyn nhw’n llwyddo i ennill ar Barc y Scarlets dydd Sadwrn.
“Mae hon yn gêm hollol allweddol i ni, os ydyn ni’n ennill fan hyn dw i’n meddwl byddwn ni’n iawn ar gyfer y chwech uchaf os edrychwch chi ar weddill y tymor,” meddai Wayne Pivac.
“A phob parch i’r gwrthwynebwyr sydd gennym ni a Connacht, mae ganddyn nhw gemau anoddach; maen nhw’n chwarae timau sy’n uwch na nhw, rydyn ni’n chwarae timau sy’n is.”
Tîm y Scarlets: Jordan Williams, Harry Robinson, Regan King, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Steven Shingler, Aled Davies; Phil John, Ken Owens (capt), Peter Edwards, George Earle, Johan Snyman, Lewis Rawlins, James Davies, John Barclay
Eilyddion: Ryan Elias, Wyn Jones, Jacobie Adriaanse, Jack Payne, Rory Pitman, Gareth Davies, Rhys Priestland, Adam Warren