Bydd clo Cymru Andrew Coombs yn dychwelyd i dîm y Dreigiau ar gyfer eu gêm yn erbyn Ulster ddydd Sul ar ôl gwella o anaf i’w gefn.

Dim ond un newid arall sydd i dîm y Dreigiau ar gyfer y gêm fydd yn fyw ar Y Clwb Rygbi ar S4C am bedwar y p’nawn, gyda James Benjamin yn dod i mewn i’r rheng ôl.

Bydd Hallam Amos, sydd wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru unwaith eto er mwyn gallu chwarae i’w ranbarth, yn dechrau ar yr asgell.

Mae’r Dreigiau yn ddegfed yn nhabl y Pro12 ar hyn o bryd ar ôl colli i Zebre yr wythnos ddiwethaf, tra bod yr ymwelwyr o Iwerddon yn drydydd.

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Tom Prydie, Jack Dixon, Ashley Smith, Hallam Amos, Dorian Jones, Jonathan Evans; Boris Stankovich, T. Rhys Thomas (capt), Brok Harris, Andrew Coombs, Cory Hill, James Thomas, James Benjamin, Nick Crosswell.

Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Lloyd Fairbrother, Matthew Screech, Scott Matthews, Luc Jones, Carl Meyer, Ashton Hewitt.