Justin Tipuric
Fe fydd Justin Tipuric a Ryan Bevington yn chwarae eu canfed gêm dros y Gweilch yfory wrth i Munster ymweld ag Abertawe yn y Pro12.

Tipuric yw un o’r pedwar sydd yn dychwelyd i’r Gweilch ar ôl eu gêm gyfartal ym Munster yr wythnos ddiwethaf – mae’r mewnwr Richard Habberfield, y prop Aaron Jarvis a’r clo Lloyd Peers hefyd yn y tîm.

Munster sydd ar frig y Pro12 ar hyn o bryd, gyda’r Gweilch chwe phwynt y tu ôl iddyn nhw yn y pumed safle, felly fe fydd y gêm yn allweddol ar gyfer gobeithion y ddau dîm o sicrhau lle yn y pedwar uchaf.

Ac fe fydd hi’n gêm arbennig i’r prop Ryan Bevington, sydd dim ond newydd ddychwelyd ar ôl blwyddyn allan gydag anaf.

“Rydw i wedi bod yma ers mod i’n 15 oed a dyma’r unig le dw i eisiau bod,” meddai Bevington.

“Mae wedi cymryd hirach nag y bydden i wedi hoffi achos o’r anafiadau felly dw i jyst yn falch o gyrraedd yna yn y diwedd.

“Mae lot o gystadleuaeth am lefydd yma, mae’r rheng flaen wastad wedi bo fel yna, felly dw i’n gwybod fod rhaid gweithio’n galed jyst i aros ynddi.”

Dywedodd Tipuric ei fod yntau’n falch o gyrraedd ei ganfed ymddangosiad dros ei ranbarth, ond fydd e ddim yn meddwl am hynny wrth i’r chwib cyntaf chwythu ar ddechau’r gêm.

“Mae gêm dydd Sadwrn yn un pwysig yn erbyn y tîm sydd ar frig y gynghrair felly’r peth pwysicaf i fi yw cael y perfformiad a’r canlyniad sydd angen arnom ni. Dyna beth sydd yn poeni fi mwyaf, ddim cyrraedd 100 gêm,” meddai Tipuric.

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Tom Grabham, Jonathan Spratt, Josh Matavesi, Hanno Dirksen, Sam Davies, Tom Habberfield; Ryan Bevington, Scott Otten, Aaron Jarvis, Lloyd Peers, Tyler Ardron, James King, Justin Tipuric (capt), Dan Baker.

Eilyddion: Matthew Dwyer, Nicky Smith, Dmitri Arhip, Rory Thornton, Olly Cracknell, Morgan Allen, Martin Roberts, Ben John.