Caeredin 24–16 Gweilch
Dechreuodd penwythnos y Cymry yn yr Alban yn wael wrth i’r Gweilch golli yn erbyn Caeredin yn Myreside nos Wener wedi i’r tîm cenedlaethol dan ugain golli yn erbyn yr Alban yn gynharach yn y noson.
Pwynt oedd yng ngêm y Gweilch ar hanner amser ond roedd y tîm cartref yn gryfach wedi’r egwyl wrth i geisiau Tom Brown a Grayson Hart sicrhau’r fuddugoliaeth.
Roedd Sam Davies wedi cicio’r Gweilch ar y blaen cyn i Jade Te Rure groesi am gais cyntaf y gêm wedi dadlwythiad da Jack Cuthbert yn y dacl. Trosodd y mewnwr cartref ei gais ei hun, 7-3 y sgôr hanner ffordd trwy’r hanner.
Caeodd Davies y bwlch i bwynt wedi hynny cyn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf gyda thrydedd cic lwyddiannus bedwar munud cyn yr egwyl.
Caeredin a Te Rure gafodd air olaf y deugain agoriadol serch hynny wrth i gic olaf yr hanner eu rhoi yn ôl bwynt ar y blaen.
Bu rhaid aros tan doc wedi’r awr am bwyntiau cyntaf yr ail gyfnod pan groesodd Brown yn y gornel chwith yn dilyn pas hir dda yr eilydd faswr, Tom Heathcote. Trosodd yntau’r cais i ymestyn y fantais i wyth pwynt.
Roedd y canlyniad yn ddiogel dri munud o’r diwedd wedi i Hart groesi am drydydd cais y tîm cartref a chais cysur yn unig oedd ymdrech hwyr Dan Evans i’r Gweilch yn dilyn bylchiad da Sam Davies.
Mae’r Gweilch yn aros ar frig tabl y Guinness Pro12 er gwaethaf y canlyniad ond mae Ulster wedi cau’r bwlch arnynt yn dilyn buddugoliaeth swmpus yn erbyn Treviso.
.
Caeredin
Ceisiau: Jade Te Rure 18’, Tom Brown 62’, Grayson Hart 77’
Trosiadau: Jade Te Rure 19’, Tom Heathcote 63’, 78’
Cic Gosb: Jade Te Rure 40’
Cerdyn Melyn: Damien Hoyland 64’
.
Gweilch
Cais: Dan Evans 80’
Trosiad: Sam Davies 80’
Ciciau Cosb: Sam Davies 15’, 27’, 36’
Cerdyn Melyn: Duncan Jones 75’