Llwyddodd cais gan Matthew Dwyer y munud olaf y gêm i dawelu’r dorf yng Nghaerfaddon wrth sicrhau buddugoliaeth 13-10 i’r Gweilch y prynhawn yma.
Hwn oedd yr ail dro yn unig i Gaerfaddon golli gartref y tymor yma.
Roedd y tîm cartref 10-3 ar y blaen ar hanner amser ar ôl ceisiau gan Richard Lane a Max Lahiff, gyda Sam Davies yn sgorio cic gosb i’r Gweilch.
Ar ôl cic gosb arall gan Sam Davies 10 munud cyn y diwedd, cafwyd pum munud llawn cyffro at ddiwedd y gêm cyn i Dwyer groesi’r llinell a Davies drosi’r cais i selio’r fuddugoliaeth.