Unwaith eto heddiw, llwyddodd tîm o Loegr i ennill yng Nghaerdydd ar ôl i’r tîm cartref fod ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Roedd y Gleision yn arwain 9-3 wrth i hanner amser nesáu, diolch i dair cic gosb gan Gareth Davies. Newidiodd pethau dri munud cyn yr egwyl fodd bynnag gyda chais gan Fraser Balmain.

Roedd yr ymwelwyr 15-9 ar y blaen ar gychwyn yr ail hanner, ac ar ôl cais yr un gan David Mele a Tommy Bell a dau gais gan Adam Thompstone, roedd hi’n fuddugoliaeth ysgubol i’r Teigrod, a gipiodd bwynt bonws haeddiannol am eu hymdrechion.