Kenwyne Jones (Wikipedia CCA 2.0)
Ar ôl bod ar y blaen am y rhan fwyaf o’r gêm fe wnaeth cic hwyr o’r smotyn ddryllio breuddwyd Caerdydd am fuddugoliaeth yn Sheffield heddiw.

Dyma’r pumed gêm yn olynol iddyn nhw fethu â’i hennill.

Roedd Kenwyne Jones wedi llwyddo i benio’r bêl i’r rhwyd saith munud i mewn i’r gêm, a’r chwaraewr newydd Eoin Doyle wedi dod yn agos at sgorio gôl a fyddai wedi dyblu eu mantais.

Chwarter awr cyn y diwedd, sgoriodd Will Keane gyda’i gic o’r smotyn a arweiniodd at gêm gyfartal.