Grenoble 3-28 Gleision Caerdydd

Mae’r Gleision wedi gorffen yn ail yng Ngrŵp 1 Cwpan Her Ewrop wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Grenoble.

Sicrhaodd y rhanbarth Cymreig fuddugoliaeth gyda phwynt bonws diolch i ddau gais gosb, a chais yr un i Josh Navidi a Lloyd Williams.

Yn anffodus i’r Gleision, fe enillodd Gwyddelod Llundain eu gêm yn erbyn Rovigo 34 – 6 gan olygu mai nhw sy’n gorffen ar frig y grŵp.

Er hynny, mae’r ail safle’n ddigon i sicrhau lle i’r Cymry yn y chwarteri, er na fyddan nhw’n gwybod eu gwrthwynebwyr nes i’r gemau eraill i gyd gael eu chwarae.

Gleision Caerdydd: Rhys Patchell; Richard Smith, Cory Allen, Adam Thomas, Alex Cuthbert; Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Gethin Jenkins (c), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Josh Turnbull, Sam Warburton, Josh Navidi.

Eilyddion: Matthew Rees, Sam Hobbs, Adam Jones, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Gavin Evans.