Coch i Kyle
Blackburn Rovers 3 – 1 Abertawe

Mae Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli i Blackburn Rovers yn y bedwaredd rownd.

Os nad oedd colli i dîm o’r Bencampwriaeth yn ddigon, fe orffennodd Abertawe y gêm gyda dim ond 9 dyn ar y cae wedi i Kyle Bartley a Gylfi Sigurdsson weld cerdyn coch yr un.

Roedd yn ddechrau trychinebus i’r Elyrch wrth i Bartley gael ei yrru o’r maes wedi dim ond 7 munud yn dilyn trosedd broffesiynol ar Josh King.

Er hynny, aeth y deg dyn ar y blaen diolch i ergyd ardderchog Sigurdsson o 25 llath wedi 21 munud.

Ni pharhaodd y flaenoriaeth yn hir, wrth i Chris Taylor sgorio i Blackburn cwta ddwy funud yn ddiweddarach.

Roedd yn dalcen caled i’r ymwelwyr  gyda chwaraewr yn brin ond roedden nhw’n dal yn y gêm ac yn gobeithio sicrhau ail-chwarae ar y Liberty gyda chwarter awr yn weddill.

Ond, gyda 78 munud ar y cloc, rhwydodd cyn ymosodwr Caerdydd, Rudy Gestede, gôl flêr i roi’r tîm cartref ar y blaen.

Ychwanegodd enw arall cyfarwydd i gefnogwyr Caerdydd, Craig Conway, gôl arall i’r tîm cartref gyda munud o’r 90 yn weddill cyn i Sigurdsson ychwanegu at gur pen Garry Monk trwy weld cerdyn coch yn yr amser ychwanegol.

Diwrnod siomedig i Abertawe, a fyddan nhw ddim yn yr het ar gyfer rownd 5.

Tîm Abertawe: Fabianski, Rangel (C), Bartley, Amat, Tiendalli, Carroll (Fernandez 9′), Shelvey, Dyer, Sigurdsson, Barrow (Montero 62’), Gomis (Oliveira 77’)