Sam Warburton
Fe fydd triawd o sêr Cymru yn dychwelyd i dîm y Gleision yfory wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop.

Mae angen i’r Gleision drechu Grenoble oddi cartref er mwyn bod yn saff o le yn y rownd nesaf, er y gallan nhw dal gyrraedd yno petai canlyniadau eraill yn mynd o’u plaid.

Ac er mwyn ceisio sicrhau hynny mae Gethin Jenkins, Sam Warburton ac Alex Cuthbert i gyd wedi cael eu galw nôl i’r tîm.

Bydd Josh Navidi, oedd yn anlwcus i beidio â chael ei gynnwys yng ngharfan Cymru yr wythnos hon, hefyd yn dychwelyd i’r tîm.

Bydd Kristian Dacey a Taufa-ao Filise yn ymuno â Jenkins yn y rheng flaen, gan olygu lle ar y fainc yn unig i Adam Jones, a bydd Chris Dicomidis yn yr ail reng gyda Filo Paulo.

“Rydyn ni eisiau cyrraedd rownd yr wyth olaf a chael gêm gartref,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Mark Hammett.

“Yr unig ffordd o sicrhau hynny fydd cael buddugoliaeth dda a gobeithio yr aiff ambell i ganlyniad arall ein ffordd ni.”

Tîm y Gleision: Rhys Patchell, Richard Smith, Cory Allen, Adam Thomas, Alex Cuthbert, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Gethin Jenkins (capt), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Josh Turnbull, Sam Warburton, Josh Navidi.

Eilyddion: Matthew Rees, Sam Hobbs, Adam Jones, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Gavin Evans.