Fe fydd Rhys Priestland yn chwarae dros y Scarlets yn Ewrop am y tro olaf –am y tro, beth bynnag – wrth iddyn nhw groesawu Toulon i Barc y Scarlets yfory.

Mae’r maswr – sy’n ymadael am Gaerfaddon – hefyd yn chwarae am y 150fed tro dros y rhanbarth y penwythnos yma, ar ôl llwyddo i dorri record pwyntiau y Scarlets yn ystod y golled i Gaerlŷr yr wythnos ddiwethaf.

Ond fe fydd y Scarlets yn dal heb chwech o’u chwaraewyr rheng flaen ar gyfer y gêm yn erbyn pencampwyr Ewrop.

Mae tîm Wayne Pivac eisoes allan o Gwpan Pencampwyr Ewrop ond fe fyddan nhw’n gobeithio parhau’n ddiguro gartref yn y gystadleuaeth.

Anafiadau

Mae Phil John, Ken Owens, Emyr Phillips, Kirby Myhill, Samson Lee a Rhodri Jones dal yn derbyn triniaeth am anafiadau ac ni fydd y chwaraewyr ail reng Johan Snyman a Jake Ball ar gael chwaith.

Mae Steven Shingler yn dod i mewn fel cefnwr ar ôl i Liam Williams hefyd fethu â gwella mewn pryd.

“Rydym ni nawr ni eisiau mynd mas gyda bang yn y twrnament ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddydd Sadwrn a herio’r goreuon unwaith eto,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac.

Bydd uchafbwyntiau’r gêm yn cael eu dangos ar S4C am 10.00yh nos Sadwrn.

Tîm y Scarlets: Steven Shingler, Harry Robinson, Regan King, Scott Williams (capt), Hadleigh Parkes, Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Ryan Elias, Peter Edwards, George Earle, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, John Barclay, Rob McCusker.

Eilyddion: Darran Harris, Wyn Jones, Jacobie Adriaanse, Sion Bennett, Rory Pitman, Rhodri Williams, Josh Lewis, Kristian Phillips.