Alex Cuthbert
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi cadarnhau bod Alex Cuthbert wedi gwrthod cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Gatland, fodd bynnag, na fyddai hynny’n effeithio ar siawns yr asgellwr o gael ei ddewis dros Gymru.

Bellach mae saith chwaraewr wedi arwyddo cytundebau deuol ers i’r Undeb a’r rhanbarthau ddatrys y ffrae yn rygbi Cymru y llynedd.

Yr Undeb sydd yn talu 60% o gyflog y chwaraewyr ar gytundebau canolog, sydd yn cynnwys capten Cymru Sam Warburton, tra bod y rhanbarth yn talu 40%.

Ond yn ôl y cytundeb does dim hawl gan y chwaraewr i chwarae mwy nag 16 gêm i’w ranbarth bob tymor.

Na gan Cuthbert

Wrth gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad fe gadarnhaodd Gatland fod Cuthbert, sydd wedi cael ei enwi, wedi gwrthod y cynnig.

“Mae Alex wedi penderfynu peidio â derbyn cytundeb deuol,” meddai Gatland. “Mae ganddo flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb gyda’r Gleision.

“Fe gynigion ni gytundeb iddo fe ac fe wrthododd e am ei resymau ei hunan.

“Does dim pwysau ar chwaraewyr i dderbyn cytundebau deuol. Mae’n cael ei gynnig iddyn nhw, ac os nad ydyn nhw eisiau ei dderbyn wedyn mae’n golygu bod cyfle i’w gynnig i rywun arall.

“Bydd e ddim yn effeithio ar y dewis [i’r tîm cenedlaethol], ond mae mantais amlwg i’r chwaraewyr o ran faint o gemau fyddan nhw’n chwarae dros eu rhanbarth.”