Stuart Lanacaster (chwith), hyfforddwr Lloegr (llun: Adam Davy/PA)
Mae Lloegr wedi cyhoeddi eu carfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth iddyn nhw baratoi i herio Cymru yn y gêm agoriadol.

Ymysg yr enwau sydd yn dychwelyd i’r garfan mae’r maswr Danny Cipriani a’r wythwr Nick Easter, ac mae lle hefyd i’r canolwr Jonathan Joseph a’r clo Graham Kitchener.

Bydd Cymru’n herio Lloegr nos Wener 6 Chwefror yn Stadiwm y Mileniwm yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth.

Anafiadau

Mae Lloegr wedi gorfod delio â nifer o anafiadau wrth baratoi ar gyfer y twrnament, gan gynnwys y blaenasgellwr Ben Morgan sydd wedi torri ei goes.

Mae’n debygol hefyd na fydd Manu Tuilagi na Courtney Lawes yn ffit i wynebu Cymru, er y gallan nhw fod yn holliach nes mlaen yn y gystadleuaeth.

Ond fe allai prif hyfforddwr Lloegr Stuart Lancaster hefyd alw ar chwaraewyr o dîm y Saxons ar gyfer y gêm yn Stadiwm y Mileniwm mewn ychydig llai na tair wythnos.

Carfan Lloegr

Blaenwyr: D Attwood (Caerfaddon), C Clark (Northampton), D Cole (Caerlŷr), A Corbisiero (Northampton), N Easter (Harlequins), D Hartley (Northampton), J Haskell (Wasps), G Kitchener (Caerlŷr), G Kruis (Saracens), J Marler (Harlequins), G Parling (Caerlŷr), C Robshaw (Harlequins, capt), B Vunipola, M Vunipola (Saracens), D Wilson (Caerfaddon), T Wood (Northampton), T Youngs (Caerlŷr).

Olwyr: B Barritt (Saracens), M Brown (Harlequins), L Burrell (Northampton), D Care (Harlequins), D Cipriani (Sale), K Eastmond (Caerfaddon), O Farrell (Saracens), G Ford (Bath), A Goode (Saracens), J Joseph (Caerfaddon), J May (Caerloyw), S Myler (Northampton), J Nowell (Caerwysg), B Twelvetrees (Caerloyw), A Watson (Caerfaddon), R Wigglesworth (Saracens), B Youngs (Caerlŷr).