Middlesbrough 2–1 Caerdydd
Mae tymor trychinebus Caerdydd yn parhau wedi iddynt golli eto yn y Bencampwriaeth nos Fawrth, oddi cartref yn erbyn Middlesbrough ar Stadiwm Riverside y tro hwn.
Roedd goliau Bamford a Tomlin yn ddigon i’r tîm cartref sicrhau’r fuddugoliaeth er gwaethaf gôl hwyr Jones.
Cafodd Kike gyfle gwych i roi’r tîm cartref ar y blaen o fewn yr ugain eiliad cyntaf ond methodd y Sbaenwr â tharo’r targed.
Parhau’n ddi sgôr a wnaeth hi tan hanner amser ond daeth y gôl agoriadol i’r tîm cartref toc wedi’r awr pan ddaeth Patrick Bamford o hyd i’r gornel isaf.
Dyblodd Lee Tomlin y fantais ddeuddeg munud o’r diwedd yn dilyn gwaith creu Adam Reach.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i Gaerdydd pan beniodd Kenwyne Jones groesiad Joe Ralls i gefn y rhwyd gyda phum munud i fynd ond daliodd Boro eu gafael tan y diwedd i gipio’r tri phwynt.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn drydydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Middlesbrough
Tîm: Konstantopoulos, Kalas (Whitehead 93′), Gibson, Ayala, Friend, Clayton, Leadbitter, Tomlin (Vossen 85′), Bamford, Reach, Garcia Martinez (Adomah 74′)
Goliau: Bamford 63’, Tomlin 79’
Cardiau Melyn: Clayton 55’, Leadbitter 62’, Vossen 90’
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Brayford, Morrison, Turner, Connolly, Adeyemi (Ralls 77′), Gunnarsson, Whittingham, Noone (Macheda 87′), Harris, Revell (Jones 67′)
Gôl: Jones 86’
Cerdyn Melyn: Brayford 33’
.
Torf: 16,304
.
Wrecsam
Colli oedd hanes Wrecsam yn eu gêm hwy yn y Gyngres nos Fawrth hefyd. Roedd goliau Tom Murphy a Sean Raggett yn ddigon i ennill y gêm i Dover ar y Crabble.